Culture and Identity

Pam bod rhaid i ni amddiffyn a hyrwyddo beth mae’n golygu i fod yn Gymreig

Wrth i ni fwynhau wythnos yr Eisteddfod – er na allwn fynd i'r Maes yn anffodus – hoffwn gynnig fy ngweledigaeth bersonol ar yr hyn a olyga hunaniaeth yn y Gymru fodern yn ysgrifennu Paul Davies MS.

Wrth i ni fwynhau wythnos yr Eisteddfod – er na allwn fynd i’r Maes yn anffodus – hoffwn gynnig fy ngweledigaeth bersonol ar yr hyn a olyga hunaniaeth yn y Gymru fodern yn ysgrifennu Paul Davies MS. Wrth gyflwyno fy syniadau mewn ysgrifen, rwy’n deall yn iawn y gall mynegi syniadau ynghylch hunaniaeth bersonol a chenedlaethol fod yn beth peryglus. Mae llais pobl yn cael ei foddi, cânt eu difrïo a’u camddyfynnu mor hawdd gan y torfeydd ar-lein neu gan y cyfryngau sy’n eu camlywio. Nid yw hyn yn cyfoethogi ein dadleuon cyhoeddus. Ar rhyw bwynt ar hyd y llwybr rhyddid barn a rhyddid meddwl, mae gormod o bobl wedi eu penodi eu hun yn farnwr, yn rheithgor ac yn ddienyddiwr wrth benderfynu beth sy’n safbwynt derbyniol o ran Cymru a hunaniaeth Gymreig. Oherwydd cryfder ein democratiaeth ryddfrydig, oddefgar a llewyrchus, ni all neb ein gorfodi ninnau bobl Cymru i dderbyn yr hyn a ystyrir yn Gymreictod neu beidio.

Ond fel arweinydd gwleidyddol a Chymro balch, rydw i eisiau esbonio fy marn bersonol ar hunaniaeth Gymreig. Roeddwn wedi gobeithio gwneud hyn trwy ddarlith yn yr Eisteddfod – yr Eisteddfod y byddaf yn ymweld â hi cyn amled â phosibl gyda ffrindiau a theulu, yr Eisteddfod sy’n gartref i mi, yr Eisteddfod sydd wrth graidd y ffordd mae llawer ohonom yn canfod Cymru ddiwylliedig a diwylliannol. Gan na allwn gwrdd mewn ffordd gonfensiynol, rwy’n meddwl mai traethawd arall yw’r ffordd orau o fynegi fy meddyliau.

Mae tair rhan i fy meddyliau ar hunaniaeth Gymreig – y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol. Ni fyddwch yn synnu wrth i mi ystyried y gorffennol yn gyntaf. Mae dathlu hanes Cymru yn sylfaen i’n hunaniaeth Gymreig a’n dealltwriaeth o Gymru, ac rwy’n falch bod cwricwlwm Cymreig y dyfodol yn debygol o roi mwy o bwyslais ar ein hanes ehangach. Ond eto, rwy’n deall y gall y gorffennol fod yn lle anodd i’r Ceidwadwyr Cymreig yn aml. Rydym wedi gwneud camgymeriadau. Wrth edrych nôl ar y cyfnod cyn y Swyddfa Gymreig yn 1964, gwastraffom dair blynedd ar ddeg yn credu bod penodi AS o etholaeth yn Lloegr i ddelio â materion Cymru yn dderbyniol. Roedd penodi pedwar AS o Loegr yn olynol yn Ysgrifennydd Cymru rhwng 1987 a 1997 yn gamgymeriad hefyd, ni waeth pa mor gadarn oedd cymeriadau a galluoedd y rhain. Wrth wneud y cyfryw benderfyniadau, rhoesom gyfle i’n gwrthwynebwyr bortreadu’r Ceidwadwyr yng Nghymru fel pobl estron, ffroenuchel – olynwyr yr Uchel Dorïaid yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fyddai’n troi ffermwyr denantiaid allan am bleidleisio i’r Rhyddfrydwyr. Nid yw’n briodol i minnau ymddiheuro am gamgymeriadau yng ngorffennol y Ceidwadwyr yng Nghymru, ond er mwyn cynnig gwerthusiad gonest o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Gymro ac yn Geidwadwr Cymreig, mae’n rhaid i mi gydnabod y camgymeriadau hynny o leiaf.

Ni ellir dileu hyn o’n hanes, ond ni ellir dileu rôl y Ceidwadwyr Cymreig fel grym er daioni yn ein hanes gwleidyddol ychwaith. 

Er bod ein gwrthwynebwyr yn ei chael hi’n anodd cydnabod hynny, mae’r sefydliadau sy’n benodol i Gymru wedi ffynnu’n aml am fod llywodraethau Ceidwadol wedi eu gyrru yn eu blaen. Gwnaethom gamgymeriadau yn y 1950au ond gwnaethom gamau mawr ymlaen hefyd o ran Cymreictod. Sefydlom Gyngor Darlledu Cymru, mabwysiadwyd Caerdydd yn brif ddinas newydd yn 1955, daeth baner Y Ddraig Goch yn arwyddlun cenedlaethol yn 1959, ac o safbwynt ymarferol, gweithredol, cyhoeddwyd y Crynhoad o Ystadegau Cymru yn gyntaf yn 1954, sefydlwyd Yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn 1960, ac yn 1963 sefydlwyd swyddfa fechan yng Nghaerdydd i arolygu’r economi. O safbwynt diwylliannol, yn 1953 caniatawyd dwyieithrwydd lawn mewn ysgolion am y tro cyntaf yn sgil Cylchlythyr 15, rhoddwyd grantiau ar gyfer cyhoeddi gwerslyfrau yn y Gymraeg, a rhoddwyd mwy o arian cyhoeddus i’r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y rhain oll yn llwyddiannau i Gymru a ymgododd yn ystod tair blynedd ar ddeg o Lywodraeth Geidwadol, ond yn rhy aml mae’r pethau hyn wedi cael eu hysgubo i’r ochr wrth i hanes gael ei ysgrifennu o safbwynt cul y llywodraeth ddatganoledig. Mae’n wir bod sefydlu’r Swyddfa Gymreig yn 1964 yn arwyddocaol, ond nid yw creu hon yn nacáu’r gwelliannau sylweddol yng Nghymru a gyflawnwyd gan lywodraeth nad oedd yn lywodraeth Lafur.

Wrth ystyried blynyddoedd Thatcher a Major, mae llawer ohonom yn cofio sefydlu S4C, corffori’r Gymraeg yn y cwricwlwm, a chreu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn glir. Gwaith y Blaid Geidwadol oedd hyn oll, ac mae’n rhaid cydnabod, gwaith Syr Wyn Roberts yn benodol. A lwyddodd unrhyw wleidydd Cymreig erioed i gyflawni mwy dros hunaniaeth a diwylliant Cymru na Syr Wyn? Ond unwaith eto, mae gormod o sylwebwyr a haneswyr yn obsesu ynghylch refferenda datganoli ac yn anwybyddu popeth nad yw’n gweddu i’w naratif.

Wrth edych dros y ddau ddegawd diwethaf, arweinyddiaeth Nick Bourne fu’n gyfrifol am ailfowldio ein Plaid Geidwadol Gymreig fel mudiad a oedd yn ymrwymedig i wneud i ddatganoli weithio. Y Gymraes falch, Cheryl Gillan, fu’n gyfrifol am oruchwylio’r bleidlais yn 2011 i estyn pwerau’r Senedd, a hithau gychwynnodd y broses a elwid y Comisiwn Silk. O ganlyniad, enillwyd pwerau newydd ar gyfer Bae Caerdydd drwy gytundeb, ond hefyd datganolwyd pwerau codi trethi a phwerau amrywio trethi. Llwyddom ninnau’r Ceidwadwyr i gytuno ar fframwaith cyllidol teg gyda Llywodraeth Lafur Cymru hyd yn oed, rhywbeth y methodd Llafur ei wneud pan oedd mewn grym ar ddeupen yr M4.

Ond fel Ceidwadwyr, rydym wedi methu esbonio beth a wnaethom a pham y’i gwnaethom yn rhy aml o lawer. Rydym wedi derbyn cael ein hysgubo i gyrion hanes oherwydd, mewn gwirionedd, mae cydnabod bod y Ceidwadwyr Cymreig yn bodoli hyd yn oed yn wrthun i lawer o bobl. Mae’r Hanesydd Llafur, Kenneth O. Morgan, wedi mynd mor bell â dadlau nad oes y fath beth â gwasgnod hanesyddol Ceidwadol ar Gymru. Yn ei lyfr, Modern Wales, mae’n honni’n arbennig o wenwynllyd, “Ers etholiad cyffredinol 1868, dim ond rhan ymylol, ar y gorau, mae Torïaeth neu Geidwadaeth wedi ei chwarae yn ymwybyddiaeth wleidyddol Cymru, ac o ganlyniad alla i ddim meddwl am yr un bywgraffiad sy’n canolbwyntio ar Geidwadwr Cymreig. Mae’r traddodiad llenyddol ar hyd y degawdau ond wedi dilyn canlyniadau etholiadau.”  

Roedd y cyfryw honiad mor llidiol i Arglwydd Crucywel, y cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Ceidwadol, nes iddo gysegru rhan helaeth o ffocws ei Ddarlith Flynyddol i’r Archif Weidyddol Gymraeg yn 2006 i wrthbrofi hyn, gan ddadlau’n gryf “…Nad yw’n gywir o gwbl bod y traddodiad llenyddol, neu’n wir, diddordeb haneswyr, wedi dilyn canlyniadau etholiadau yn unig. Mae llawer iawn wedi cael ei ysgrifennu am gefnogwyr Cenedlaetholdeb Cymreig er gwaethaf y diffyg cefnogaeth a gawsant gan etholwyr Cymru dros yr un cyfnod.” Mae Arglwydd Crucywel yn llygad ei le, ond nid wyf am ymhelaethu ar hyn heblaw am nodi’n ddiamheuol mai’r Ceidwadwyr fu’r ail blaid yng Nghymru ym mhob cyfnod estynedig dros y can mlynedd diwethaf.

Mae pethau’n newid. Rwy’n falch iawn bod mwy o lyfrau’n cael eu hysgrifennu o’r diwedd a fydd yn unioni’r fantol. Rwy’n arbennig o fodlon wrth weld bod cynlluniau ar y gweill i lansio Cymdeithas Hanes y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n bryd i ninnau fel Ceidwadwyr hybu ein hanes ac rwy’n rhwymo’r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn llwyr i’r fenter hon. Mae fy ffrind a’m cydweithiwr, Yr Arglwydd Davies o Gŵyr, ymhlith y rhai sy’n hyrwyddo’r fenter hon ac erbyn cynhadledd nesaf y Ceidwadwyr Cymreig rwy’n gwybod y bydd sefydliad yn bodoli sy’n dathlu ac yn myfyrio ar gyfraniad hanesyddol ein plaid o’r diwedd.

Ac mae hyn yn fy arwain at y presennol. Mae hwn yn gyfnod gwleidyddol cythryblus lle mae rhethreg a chwerwedd gwleidyddol wedi dod yn iaith gyffredin ein dydd. Fel erioed, mae’r dadleuon mwyaf eithafol yn arwain i’r condemniadau mwyaf ffyrnig, boed gan y rhai sydd eisiau Diddymu Cynulliad nad yw’n bodoli bellach (Senedd Cymru sydd gennym nawr!), neu’r rhai sydd wedi eu lapio mor gysurus yn eu swigod cyfryngau cymdeithasol fel eu bod yn credu bod annibyniaeth i Gymru rownd y gornel. Mae’r ddau grŵp hyn yn cael eu dallu o ran eu gweledigaethau, yn rhannol oherwydd eu bod yn treulio cymaint o amser yn brwydro yn erbyn ei gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Weithiau rwy’n meddwl y byddai Twitter yn lle gwell o lawer pe byddai ugain neu dri deg o droliau ar-lein a rhyfelwyr bysellfwrdd yn diflannu oddi arno.

Ond a ydw i’n credu na ddylai’r naill na’r llall o’r mudiadau neu’r safbwyntiau hyn fodoli mewn gwirionedd? Dim o gwbl. Wrth gwrs, byddwn ninnau’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno ein hachos i’r etholwyr y flwyddyn nesaf a byddwn yn ymladd dros bob un sedd. Ond rydym yn byw mewn democratiaeth gynrychiadol ac mae hynny’n golygu y gellir lleisio nifer o wahanol farnau heb i bobl foddi eich llais, neu eich difrïo neu ddifenwi. Fel Ceidwadwr sy’n siaradwr Cymraeg ac a fagwyd yng Ngorllewin Cymru, rwy’n gwybod yn iawn sut mae hynny’n teimlo. Mae mor sarhaus pan fod pobl yn dweud wrthych nad ydych yn Gymro os nad ydych yn cefnogi annibyniaeth. Mae mor annheg pan fod pobl yn dweud wrthych fod y Gymraeg – fy iaith innau – yn perthyn i genedlaetholdeb Cymru. A hefyd – ac nid wyf yn gwingo rhag dweud hyn – mae’n brifo hefyd pan fod pobl yn dweud wrthych na ddylech fod yn credu mewn datganoli am eich bod yn Geidwadwr.

Yr hyn sy’n uno’r Ceidwadwyr Cymreig yw’r gred bod angen chwyldro datganoli i gael gwared â’r llywodraeth Lafur er mwyn i ddatganoli gael unrhyw obaith o weithio. Hon fydd y neges fydd yn ein tynnu at ein gilydd bob wythnos, bob mis, ac ym mhob gweithred rhwng nawr a mis Mai nesaf.

Mae geiriau’n bwysig. Dyna pam mae angen i bob un ohonom ofalu rhag ysgogi rhwyg a chasineb mewn cymdeithas. Un o’r pethau sydd wedi bod yn destun pryder i mi yn ystod y pandemig hwn yw twf ymynysedd mewn trafodaeth gyhoeddus. Rydym bob un wedi gweld yr adroddiadau yn y cyfryngau lle mae ymlediad y clefyd wedi’i briodoli i bobl yn croesi’r ffin i Gymru, fel pe byddai Cymru wedi goroesi hyn ar ein pen ein hun. Rydw i eisiau byw mewn Cymru sy’n gynhwysol ei hagwedd, nad yw’n beio pobl eraill am ein problemau ninnau, ond sydd eisiau cydweithio i ddod o hyd i ateb cadarnhaol. Nid oes ffiniau i ateb Cymraeg penodol, ac nid oes terfyn ar ei syniadau.

Rwy’n pryderu hefyd bod yr ymynysu hwn yn ceisio diffinio’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Gymreig. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i ddweud beth yw bod yn Gymreig. Mae llawer o bobl sydd wedi symud i Gymru yn ymglymu’n llawn wrth eu cymuned ond maent yn teimlo bod pobl eraill yn eu hynysu am nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddigon Cymreig. Mae’n rhaid rhoi terfyn ar hyn gan fod pob un ohonom eisiau gweld Cymru gynhwysol. Yr hyn mae person yn ei wneud sy’n sylfaenol i fod yn Geidwadwr Cymraeg, ac nid ble cafodd ei eni. Waeth gen i p’un ai fod y person sy’n byw yn fy etholaeth yn Nhrefdraeth, Sir Benfro yn dod o Gasnewydd, Gwent neu o Newport Pagnell – y peth mae person yn ei wneud sydd o bwys, nid o ble mae’n dod.

Ac wrth i mi edrych tua’r dyfodol hefyd o ran hunaniaeth Gymreig, rydw i eisiau gweld gwlad sy’n dathlu ei gorffennol oherwydd ein llwyddiannau. Wrth lunio’r maniffesto ar gyfer etholiad nesaf Senedd Cymru, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn addo dathlu ein gorffennol mewn ffordd nad yw Llafur erioed wedi llwyddo i’w wneud er gwaethaf ei geiriau cynnes. Rydym yn ymrwymo’n ddiffuant i’n gorffennol Cymreig a rennir, yn cynnwys safle gwell i’r Archifau Cenedlaethol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cynnig Oriel Gelf Genedlaethol i Gymru, gyda chasgliadau yng Ngogledd a De Cymru, fel rhan o’n hymrwymiad i rannu ein trysorau cenedlaethol, yn cynnwys celfyddyd hanesyddol a chyfoes. Byddwn yn sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol yn Aberhonddu, gydag arddangosfeydd ledled Cymru fel y gallwn gofio a myfyrio ar hanes balch aelodau’r lluoedd arfog yng Nghymru. Byddwn yn adrodd hanes Cymru a seryddiaeth, gan ddewis lleoliad yng nghanol wybrennau tywyll Canolbarth Cymru i sefydlu Arsyllfa Genedlaethol i Gymru. A byddwn yn creu arddangosfa barhaol ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ynghyd ag yn Aberystwyth, yn defnyddio Adeilad eiconig y Pierhead ar ystad Senedd Cymru efallai, gan fod hwn yn cael ei danddefnyddio’n ddirfawr yn rhy aml. Mae’r rhain yn addewidion cadarn i adfywio diwylliant Cymru.

Ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ni fyddai’n briodol i mi beidio â chyfeirio at yr hyn fyddwn yn ei wneud dros y Gymraeg hefyd. Fel Llywodraeth Geidwadol Gymreig byddwn yn sicrhau bod pob agwedd ar lywodraeth yn hybu’r defnydd o iaith fy aelwyd. Mae Llafur Cymru’n ymffrostio yn ei chefnogaeth o’r Gymraeg ond yn aml maent yn ei chael hi’n anodd i wneud i bethau ddigwydd go iawn. Dyma enghraifft i chi. Edrychwch ar Gynllun Gweithredu Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer 2018-19.

Mae’n cynnwys cyllideb i’w gwario ar gyhoeddiadau i ddysgwyr Cymraeg. Y broblem yw na welir unrhyw wariant. Ni wariodd y corff a ymddiriedwyd i hyrwyddo llenyddiaeth yr un bunt y llynedd ar gefnogi dysgwyr Cymraeg. Mae dyfodol y Gymraeg yn nwylo’r rhai hynny sydd eisiau dysgu. Yn ystod misoedd cyntaf Llywodraeth Geidwadol Gymreig, bydd hynny’n newid. Byddwn yn cyhoeddi Llythyr Cylch Gwaith newydd i Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o gyfres o lythyrau cylch gwaith i bob corff cyhoeddus yng Nghymru. A byddwn yn dweud wrthynt fod yn rhaid iddynt adlewyrchu agenda’r llywodraeth, ac nid yr agenda sy’n eu siwtio nhw.

Fel Ceidwadwyr Cymreig mae llawer o heriau o’n blaen. Rydym yn wynebu’r her o sicrhau bod y gorffennol yn adlewyrchu’n well y rhan a chwaraeodd y Ceidwadwyr yn ein hanes a rennir. Rydym yn wynebu’r her o sicrhau bod ein presennol yn llai ymrannol ac yn fwy gonest yn ei wleidyddiaeth. A’r her fwyaf oll sy’n ein hwynebu – ffurfio llywodraeth yng Nghymru fel y bydd gennym unwaith eto, fel yn nyddiau Wyn Roberts, lywodraeth sydd â pholisi ar ddiwylliant a’r Gymraeg nad yw’n ‘eiriau twym’ yn unig. Mae’r Gymraeg wedi bod yn ddiogel yn nwylo’r Ceidwadwyr Cymreig erioed a bydd yn ddiogel dan fy llywodraeth innau hefyd. Fy iaith innau yw hon – ein hiaith ninnau – llawn cymaint ag iaith unrhyw blaid arall.

Bydd Llywodraeth Geidwadol Gymreig yn camu y tu hwnt i eiriau. Fel y dywedais o’r blaen, byddwn yn cael ein barnu yn ôl ein gweithredoedd. Oriel Gelf Genedlaethol. Amgueddfa Filwrol Genedlaethol. Arsyllfa Genedlaethol. Arddangosfa barhaol y Llyfrgell Genedlaethol yng Nghaerdydd. Safle gwell ar gyfer yr Archifau Cenedlaethol yng Nghymru. Pum addewid ar gyfer pum mlynedd o Lywodraeth Geidwadol Gymreig a fydd yn chwyldroi’r mynediad at ein hanes a’n diwylliant – ym mhob rhan o Gymru.

Fel Ceidwadwyr Cymreig byddwn nid yn unig yn gwarchod – byddwn yn diogelu, byddwn yn gwerthfawrogi, a byddwn yn hybu hanes Cymru, y Gymraeg, a diwylliant Cymru.

Paul Davies yw Arweinydd y Ceidwadwyr ac Arweinydd yr Wrthblaid yn Senedd Cymru

Add Comment

Click here to post a comment

Leave a Reply